Mae slot o gerddoriaeth Gymraeg ar radio masnachol Swansea Sound wedi’i symud tair awr yn hwyrach i wneud lle i slot o gerddoriaeth o’r 1980au.
O heno ymlaen (Hydref 9) fe fydd y cyflwynydd Ray Rose yn cymryd slot y sioe Gymraeg rhwng 7 a 10 yr hwyr er mwyn chwarae cerddoriaeth o’r 1980au ̶ gyda’r sioe Gymraeg i ddilyn wedyn am 10 yr hwyr.
Wrth ymateb i gais golwg360 am y newid i’r amserlen mae Wireless Group, sy’n bercen Swansea Sound, yn esbonio y bydd eu hymrwymiad i’r ddarpariaeth Gymraeg yn parhau.
Wythdegau ̶ ‘mwyaf poblogaidd’
“Mae ein hymrwymiad at raglenni iaith Gymraeg yn parhau heb newid ac rydym yn dal i gynhyrchu mwy o raglenni iaith Gymraeg nag unrhyw orsaf radio fasnachol yng Nghymru,” meddai Terry Underhill, Cyfarwyddwr Rhaglennu Grŵp y cwmni.
“Golyga hyn y byddwn ni’n parhau i gynhyrchu 12 awr o raglenni Cymraeg bob wythnos,” meddai.
Er hyn ̶ “mae ein hymchwil yn cadarnhau mai’r 1980au yw’r degawd mwyaf poblogaidd i gerddoriaeth yng Nghymru ac mae’r galw yma gan y gwrandawyr wedi arwain at ein newid,” meddai wedyn.
Darpariaeth Gymraeg
Mae cyflwynwyr y sioe Gymraeg yn cynnwys Gareth Hurford, Chris Jones, Tom Cadwalladr ac Alun Rhyddid.
Mae Wireless Group yn ychwanegu y bydd ganddyn nhw o hyn allan sioeau Cymraeg chwe diwrnod yr wythnos, a’u bod wedi symud eu bwletin newyddion Cymraeg i 6 yr hwyr, awr yn gynt na’r arfer.
Mae eu datganiad hefyd yn nodi fod Swansea Sound yn cynhyrchu mwy o raglenni lleol na darlledwyr radio masnachol eraill yng Nghymru.
‘Israddio’r Gymraeg’
Mae llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu’r orsaf am “israddio’r Gymraeg” a bod hynny’n “rhan o batrwm ehangach ble mae gorsafoedd radio masnachol yn darlledu llai a llai o gynnwys Cymreig a Chymraeg.”
“Maen nhw’n llai lleol nag erioed o’r blaen,” meddai Aled Powell ar ran y gymdeithas, gan ddweud ei bod hi’n “bryd datganoli darlledu.”
“Mae angen i’r penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru,” ychwanegodd.