Mae Prif Weithredwr cwmni oedd yn gysylltiedig â chynllun i adeiladu trac rasio ceir arfaethedig aeth i’r gwellt, wedi gwrthod caniatáu cyhoeddi adroddiad amdano.

Ym mis Mehefin penderfynodd gweinidogion i beidio â rhoi arian cyhoeddus i greu Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy, Blaenau Gwent – prosiect fyddai wedi costio £433 miliwn.

Heddiw dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, na fyddai Llywodraeth Cymru yn medru cyhoeddi eu hadroddiad am un o geffylau blaen y prosiect – am nad oedd y dyn dan sylw yn fodlon i hynny ddigwydd.

Roedd Michael Carrick yn Brif Weithredwr ar Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd, sef y cwmni oedd yn arwain prosiect Cylchffordd Cymru.

Mae Ken Skates eisoes wedi rhyddhau cyfres o ddogfennau sydd yn esbonio’n rhannol sut ddaeth y Llywodraeth i’w penderfyniad am y prosiect.

Ffigurau

Mae’r gweinidog wedi cael ei gyhuddo o beidio â rhyddhau ffigurau oedd yn adlewyrchu gwir botensial y prosiect – a hynny er mwyn cyfiawnhau canslo’r cynllun.

Yn siarad â golwg360 ddoe, dywedodd yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Adam Price, bod Ken Skates wedi “cyfyngu’r ffigurau i’r ffigwr lleiaf posib”.

Mae Adam Price yn honni ei fod wedi gweld copi cyfrinachol o adroddiad y Llywodraeth sydd yn awgrymu gallai’r cynllun fod wedi creu dros 7,000 swydd – yn hytrach na 1,000 fel dywed Ken Skates.

Cyflwyniad “drygionus”

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi ymateb i sylwadau Adam Price gan ei gyhuddo o “ddewis a dethol tablau o adroddiadau drafft sydd heb eu cyhoeddi, a’u cyflwyno mewn ffordd ddrygionus”.

Dywedon nhw hefyd y byddan nhw’n cyhoeddi’r adroddiadau “cywir, llawn a therfynol maes o law fel eu bod yn gallu cael eu hystyried yn gywir ac yn eu crynswth”.