Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi fersiwn ddigidol o Destament Newydd William Salesbury i nodi’r ffaith bod 450 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi’r cyfieithiad Cymraeg yn 1567.
Esboniodd Llyfrgellydd Llyfrau Prin y Llyfrgell fod y prosiect o ddigideiddio’r copi wedi bod yn un hir gyda mwy na 850 o ddelweddau’n rhan o’r fersiwn ddigidol.
“Roedd pob un yn cael eu gwneud yn unigol gyda sganwyr arbennig,” meddai Timothy Cutts wrth golwg360.
Ac mae’n esbonio bod y Testament Newydd wedi cyfrannu’n helaeth at barhad y Gymraeg – “dyma oedd y cyhoeddiad cyntaf o ran [cyfieithiad] o’r Beibl yn y Gymraeg,” meddai.
“Er mai dim ond y Testament Newydd oedd e’, roedd e’n sail i Feibl William Morgan a ddaeth wedyn yn 1588.
“Roedd e’n bwysig o ran hanes crefyddol Cymru, ac roedd yn bwysig hefyd o ran sefydlu’r Gymraeg fel iaith ysgrifenedig a chyhoeddedig.”
William Salesbury
Brodor o Lansannan oedd William Salesbury, wnaeth astudio yn Rhydychen gan gyfrannu’n helaeth at y llyfrau gafodd eu hargraffu yn y Gymraeg hyd at 1588.
Mae fersiwn ddigidol o’r Testament Newydd i’w gweld ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol erbyn hyn ac wedi’i seilio ar gopi sy’n dal yn ei rwymiad o’r 16eg ganrif.
Roedd y copi hwnnw ymhlith 200 o gyfrolau gafodd eu prynu gan Syr John Williams oddi wrth Iarll Macclesfield, ac fe gawson nhw eu rhoi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru pan gafodd ei sefydlu.