Ashok Ahir
Mae angen peidio colli lle mewn sgript, sicrhau bod gennych foddion wrth law os oes peswch arnoch a chael y sgil i ddelio gyda heclwyr wrth siarad yn gyhoeddus.

Dyna’r cyngor y mae ymgynghorydd cyfathrebu o Gaerdydd, wedi’i roi i Theresa May, er i hynny ddod braidd yn rhy hwyr iddi.

Dywed Ashok Ahir fod y Prif Weinidog wedi gwneud yn dda wrth anwybyddu’r digrifwr a gyflwynodd ffurflen P45 iddi ar ganol un o’i hareithiau pwysicaf.

Ond roedd y ffaith ei bod yn cadw peswch ac yn “mynd ar goll weithiau” yn creu problemau mawr i Brif Weinidog Prydain, meddai.  

“Roedd hi’n glir bod hi’n dioddef cyn yr araith, felly’r peth cyntaf yw bod angen stocio lan ar unrhyw foddion neu lozenges i glirio’r gwddf cyn mynd ar y llwyfan, mae hynny’n really pwysig,” meddai Ashok Ahir o gwmni Mela wrth golwg360. Ef hefyd yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

“Dw i wedi gweld o’r blaen rhai arweinwyr hyd yn oed yn mynd ar y llwyfan gyda lozenges eu hunain, rhag ofn.

“Hefyd mae’n bwysig cael dŵr gyda chi – ac os ydych chi’n mynd ar y llwyfan gyda llwnc tost neu beswch, mae pethau rydych chi’n gallu’u gwneud o flaen llaw, fel yfed dŵr a mêl.”

Heclwyr

“Mae cael rhywun yn eich heclo chi yn her hollol wahanol,” meddai wedyn. “Dyw hi [Theresa May] ddim wastad yn dda iawn yn delio gyda sefyllfaoedd anodd pan mae’n siarad…

“[Ond] dw i’n meddwl oedd hi’n eitha’ da yn cadw ei composure, doedd hi ddim yn ymateb lot i’r pethau oedd yn digwydd o’i chwmpas hi.

“Doedd hi ddim yn trio bod yn rhy glyfar, roedd hi’n gwneud jôc fach am y P45, roedd y ffordd roedd hi wedi delio gyda’r prankster yn eitha’ da.

“Roedd e’n sefyllfa anodd iawn iddi hi, doedd hi ddim yn gwybod beth oedd ar y darn papur, roedd hi’n bod yn gwrtais, yn derbyn e, ond jyst yn rhoi e yn syth i lawr.”

Peidio colli’ch lle

 “Ar un pwynt, roedd hi’n colli trac o beth oedd hi’n gwneud, dyw hi ddim yn dda iawn yn siarad heb sgript, dyw hi ddim yn siarad yn naturiol,” meddai Ashok Ahir wedyn.

“Felly mae angen bod yn ofalus os ydych chi’n berson sydd wastad yn cadw i sgript, i fod yn barod os oes rhywbeth yn digwydd sy’n stopio’r broses.

“Roedd hi’n mynd ar goll weithiau, mae angen iddi fod yn siŵr ei bod yn gallu mynd yn ôl at y sgript ar ôl bod off y sgript.

“Ddoe, roedd hi’n ymwybodol iawn ei bod yn siarad â’i phlaid hi, mwy na siarad â’r wlad, roedd hi wir eisiau aros ar sgript, ond roedd hi’n colli trac. Dw i’n meddwl bod hyn wedi effeithio arni yn fwy na cholli ei llais.”