Cynan Jones (Llun: Bernadine Jones)
Awdur o Aberaeron ddaeth i’r brig yn un o brif wobrau llenyddol gwledydd Prydain sef Gwobr Genedlaethol y BBC am y Stori Fer orau.
Mewn seremoni arbennig yn Llundain neithiwr (Hydref 3) fe enillodd Cynan Jones £15,000 yn y gystadleuaeth oedd yn cynnwys mwy na 600 o geisiadau.
“Mae ‘The Edge of the Shoal’ yn gwneud rhywbeth gwirioneddol gyffrous o fewn ffiniau’r stori fer,” meddai’r awdur Jon McGregor, un o’r beirniaid.
“Am 6,000 o eiriau mae’r darllenydd yn bodoli’n unig yn yr ennyd bresennol fyrhoedlog, mewn gofod meddyliol lle mae bywyd wedi’i dynnu i’w hanfodion sylfaenol. Mae’n gyflawniad syfrdanol ac yn enillydd haeddiannol o’r wobr.”
Stori gariad a stori antur
Mewn cyfweliad arbennig â golwg360 adeg cyhoeddi’r rhestr fer dywedodd Cynan Jones fod ‘The Edge of the Shoal’ yn “stori gariad gymaint ag y mae’n stori antur”.
“Mae’r golygfeydd yn eithaf syml. Mae dyn yn mynd allan ar gaiac i wasgaru llwch ei dad mewn bae sy’n gyfarwydd iddo. Ond mae’n mynd ymhellach i’r môr i bysgota ac yn cael ei ddal mewn storm a’i daro gan fellten.
“Mae’n deffro wedyn ynghanol y môr, y cesair a physgod marw a’r ymwybyddiaeth o bwy yw e yn deilchion. Mae yna frwydr gorfforol wedyn i oroesi a rhyw ymdeimlad o ofal fod yn rhaid iddo fynd yn ôl at rywbeth.”
Ar y rhestr fer eleni oedd Will Eaves, Jenni Fagan, Benjamin Markovits a Helen Oyeyemi sy’n derbyn £600 yr un.