Jill Evans ASE sy'n agor y gynhadledd
Mae mudiadau cymdeithasol a gwleidyddol mewn gwledydd heb lywodraeth lawn yn ei chael yn anodd cael gwrandawiad teg yn y cyfryngau, yn ôl trefnwyr cynhadledd arbennig prynhawn yma.

Bydd cynhadledd yn cael ei chynnal yn Senedd Ewrop i drafod y cyfryngau mewn gwledydd di-wladwriaeth [stateless] gan edrych ar enghreifftiau arbennig yng Nghymru.

Mae disgwyl i’r digwyddiad ym Mrwsel ddechrau trafodaeth ar yr heriau i wledydd fel Cymru, Catalwnia, Gwlad y Basg, Corsica a Galicia, a gwledydd eraill, gyda gwleidyddion a newyddiadurwyr yn cymryd rhan.

Y Gynghrair Rydd Ewropeaidd [European Free Alliance] neu EFA, sy’n grŵp o bleidiau gwleidyddol yn yr Undeb Ewropeaidd â’r un egwyddorion, sy’n trefnu’r digwyddiad.

Bydd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Jill Evans, dros Blaid Cymru, sy’n aelod o’r grŵp,  yn agor y gynhadledd.

Bydd y darlithydd ar newyddiaduraeth a sylfaenydd gwefan newyddion Nation.Cymru, Ifan Morgan Jones, hefyd yn cymryd rhan mewn sgwrs banel dan y teitl, ‘A yw agenda gyfathrebu genedlaethol yn bosib?’

“Brwydro delweddau”

“Mae mudiadau gwleidyddol a chymdeithasol yn wynebu her gyfathrebu ddwbl er mwyn lledu eu gweledigaeth a’u hamcanion i gymdeithas,” meddai’r trefnwyr.

“Yn gyntaf, mae’n rhaid iddyn nhw frwydro yn erbyn y ddelwedd gam y mae’r cyfryngau canolog yn aml yn ei rhoi ohonyn nhw, a hynny weithiau yn gysylltiedig â senoffobia, brawychiaeth a thywyllfrydedd.

“Mae angen i unrhyw fudiad, yn gymdeithasol neu’n wleidyddol, sydd am gael effaith ar gymdeithas, gael mynediad at gyfryngau a fydd yn hyrwyddo ei ideoleg a’i amcan mor deg â phosib.

“Dyna’r her fawr i fudiadau gwleidyddol a chymdeithasol gwledydd heb wladwriaeth.”