Llun: PA
Mae’r elusen blant, y NSPCC a Phrifysgol Abertawe yn lansio ymgyrch heddiw i geisio atal plant rhag cael eu targedu gan bedoffiliaid ar-lein.
Yn ôl gwaith ymchwilwyr y brifysgol, oedd yn edrych ar yr iaith a’r dulliau i ddenu plant, mae oedolion yn gallu cysylltu â phobol ifanc dros y we a chytuno i gwrdd mewn ychydig oriau.
Roedd un achos pan wnaeth troseddwr berswadio plentyn i’w gwrdd o fewn 20 munud o ddechrau siarad ar-lein.
Mae nifer y plant sy’n cysylltu â gwasanaeth Childline yr NSPCC â phryderon dros ddiogelwch ar y we yn cynyddu.
Yn 2016/17, bu 12,248 o sesiynau cwnsela ar y gwasanaeth ar ddiogelwch a cham-drin ar-lein, cynnydd o 9% ers y flwyddyn flaenorol.
Codi ymwybyddiaeth
Mae’r NSPCC a Phrifysgol Abertawe bellach wedi cyflwyno deunydd ‘Stop TIME Online’ er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r ffyrdd mae troseddwyr yn targedu plant ar y we.
Bydd y deunydd ar gael i weithwyr cymdeithasol a phobol eraill sy’n gweithio gyda phlant ac yn cael ei dreialu mewn canolfannau NSPCC yn Abertawe, Caerdydd, Prestatyn a gogledd-orllewin Lloegr.
Y bwriad wedyn yw cyflwyno’r pecyn i ganolfannau ledled y Deyrnas Unedig.