Mae nifer y troseddau dwyn ceir yng Nghymru a Lloegr wedi codi tua thraean mewn tair blynedd, yn ôl ystadegau newydd.

Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan gwmni moduro’r RAC, mae lluoedd heddlu wedi datgelu y cafodd 85,688 o geir eu dwyn y llynedd – cynnydd o 30% o gymharu â 2013.

Mae’r RAC yn pryderu bod lladron bellach wedi darganfod sut i osgoi sustemau diogelwch mewn ceir modern, ac yn gofidio bod troseddau o’r fath ar gynnydd unwaith eto.

“Trechu sustemau diogelwch”

“Rydym yn pryderu bod lladron bellach yn defnyddio technoleg sy’n gallu trechu sustemau diogelwch gwneuthurwyr ceir,” meddai Cyfarwyddwr Yswiriant RAC, Mark Godfrey.

“Mae hyn yn newyddion drwg i fodurwyr oherwydd mi fydd yn achosi yswiriant i godi – a hynny yn ystod cyfnod pan mae premiymau eisoes yn codi.”