Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Fe fydd Rhaglen Archif Gerddorol Gymreig y Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei lansio ddydd Gwener yng nghwmni noddwr y Llyfrgell a’r arbenigwraig ar gerddoriaeth werin, Phyllis Kinney a’i merch Eluned.
Mae’r Llyfrgell yn gartref i gerddoriaeth ysgrifenedig gynharaf Cymru, ac yn casglu ynghyd gyfansoddiadau a pherfformiadau diweddaraf cerddorion cyfoes y genedl.
Bydd Nia Mai Daniel, Rheolwr Rhaglen yr Archif, a Maredudd ap Huw, y Llyfrgellydd Llawysgrifau, yn rhoi cyflwyniadau am gasgliadau cerddorol y Llyfrgell a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Digwyddiad a chasgliadau
Bydd fideo yn cael ei ddangos o Cerys Matthews yn rhoi cefnogaeth frwd i’r Archif yn ystod ymweliad diweddar â’r Llyfrgell, a bydd aelodau o Gôr y Gen yn canu detholiad o ganeuon gwerin.
Ymhlith casgliadau’r llyfrgell mae gweithiau gan Grace Williams, Daniel Jones, Alun Hoddinott a William Mathias, ynghyd â chasgliad Meredydd Evans a Phyllis Kinney, gan gynnwys gwaith ymchwil oes i gerdoriaeth draddodiadol.
Bydd yr holl gasgliadau sy’n rhan o’r Archif ar gael ar-lein, a bydd arddangosfeydd i’w gweld yn y Llyfrgell dros y penwythnos wrth i’r Drwm groesawu cynhadledd flynyddol Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ddydd Sadwrn.
‘Cyfoeth’
Dywedodd Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus y Llyfrgell, Pedr ap Llwyd: “Rydym yn ddiolchgar i Ymddiriedolwyr y Llyfrgell am fuddsoddi fel hyn yn archif gerddorol y Llyfrgell sy’n rhoi cyfle rhagorol i ni gatalogio a rhoi mynediad at archif a ffrwyth ymchwil sydd o bwysigrwydd rhyngwladol.
“Mae’r buddsoddiad yma – o gronfa breifat y Llyfrgell – yn dangos ymrwymiad yr Ymddiriedolwyr i ddatblygu casgliadau’r Llyfrgell a’n hymrwymiad fel Llyfrgell i ymchwil gerddorol”.