Llys y Goron Abertawe
Mae dyn a gyflawnidd gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant ym Mhowys yn yr 1970au, wedi ei garcharu am 10 blynedd.

Derbyniodd Gordon Fleming , 66, ei ddedfryd ddydd Gwener (Medi 15) gerbron Llys y Goron Abertawe.

Roedd eisoes wedi pledio’n euog i’r troseddau gerbron Llys Ynadon Aberystwyth ar (Ebrill 25) a Llys y Goron Abertawe ar (Awst 10).

“Dedfryd sylweddol”

“Dyma ddedfryd sylweddol i gyflawnwr trosedd rhywiol nad oedd yn ddiweddar,” meddai’r Prif Arolygydd ac arweinydd yr ymchwiliad, Steve Davies.

“Mae’r ddedfryd yn cydnabod y niwed hir dymor wnaeth gael ei achosi gan unigolyn wnaeth gymryd mantais o’i safle er mwyn cam-drin plant yn rhywiol.”