Arwyddion y peryg (Llun Cyngor Castell Nedd Port Talbot)
Fe gafodd rhagor o bobol wybod y gallai eu tai fod mewn peryg oherwydd llithriadau tir yng Nghwm Tawe.

Mae map risg newydd ar wefan Cyngor Castell Nedd Port Talbot yn dangos bod mwy na’r disgwyl o dai yn Ystalyfera mewn ‘parth coch’.

Fe ddaeth tua 200 o bobol i gyfarfod cyhoeddus i drafod y bygythiad yn Ysgol Gyfun Ystalyfera lle bu’r cyngor yn egluro eu bod yn dal i ymchwilio i’r peryg sy’n cael ei achosi’n benna’ gan effaith hen weithfeydd.

Mae deg o deuluoedd wedi cael eu gorfodi i adael eu tai yn Heol Cyfyng yn y dref ar ôl tirlithriadau eleni ac mae’n ymddangos bellach fod hyd at 60 o dai yn yr ardal risg uchel.

Asesiadau

Trwy fonitro data o’r ardal mae cynghorwyr yn gobeithio medru paratoi asesiad risg o adeiladau, isadeiledd a’r ddaear.

Mae’r gorchmynion gadael yn dweud bod rhaid i berchnogion allu sicrhau bod eu cartrefi’n ddiogel a rhai problemau strwythurol wedi eu datrys cyn mynd yn ôl.

Mae’r problemau hynny’n cynnwys systemau carthffosiaeth sydd wedi torri gan olygu bod carthion  yn llifo i’r gamlas islaw.

Mae’r awdurdod eisoes wedi nodi na fydd modd i drigolion ddychwelyd i adeiladau anniogel, ac mae’n bosib y bydd adeiladau sy’n cael eu hystyried yn “beryglus” yn cael eu dymchwel.

Mae hynny eisoes wedi digwydd mewn un achos.