Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan (llun: Ben Birchall/PA)
Bydd yr Eglwys yng Nghymru yn dechrau cyfnod o drafodaethau heddiw gyda’r nod o benodi Archesgob newydd Cymru.

Mae’r etholiad yn dilyn ymddeoliad y Dr Barry Morgan a ddaliodd y swydd am 14 mlynedd.

Mae chwe esgob esgobaethol presennol Cymru – gan gynnwys yr esgobion benywaidd Joanna Penberthy a June Osborne -ymhlith yr ymgeiswyr am y rôl.

Ymysg yr ymgeiswyr eraill mae Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Davies, Esgob Bangor, Andy John, Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, ac Esgob Mynwy, Richard Pain.

Sustem benodi

Bydd ‘coleg etholiadol’ o glerigwyr, esgobion a lleygwyr, yn ymgynnull yn Eglwys y Drindod Sanctaidd yn Llandrindod er mwyn penodi’r Archesgob newydd.

Bydd 42 aelod y coleg yn cynnal trafodaethau yno am hyd at dridiau, ac mi fydd drysau’r eglwys ynghau nes bod Archesgob newydd wedi ei benodi.

Caiff yr Archesgob newydd wedyn ei orseddu yn ei gadeirlan gartref ef neu hi.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus dderbyn dau draean o bleidleisiau’r coleg er mwyn cael eu hethol yn Archesgob.