Eilir Owen Griffiths (llun yr wyl)
Fe fydd gŵyl newydd ryngwladol i gorau yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd y flwyddyn nesa’.

Cyn-Gyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen sydd y tu cefn i’r fenter a’r nod yw denu corau o bob rhan o’r byd.

Yn ôl Eilir Owen Griffiths, fe fydd Gŵyl Gerddorol Ryngwladol Cymru yn cyfrannu at wneud Caerdydd yn ganolfan o ragoriaeth ar gyfer canu corawl.

“Mae Gŵyl Gorawl Ryngwladol Cymru yn ymroi i hyrwyddo rhagoriaeth artistig, dealltwriaeth fyd-eang, cyfeillgarwch ac ewyllys da trwy gerddoriaeth gorawl,” meddai’r cerddor, sydd wedi arwain nifer o gorau llwyddiannus.

Y manylion

O’r manylion sydd ar gael hyd yma, fe fydd patrwm y gystadleuaeth yn debyg i un Canwr y Byd gydag 16 o gorau’n cystadlu ar lwyfan Canolfan y Mileniwm yn y brifddinas, a hynny mewn pedwar categori.

Fe fydd y pump côr gorau wedyn yn cystadlu am deitl ‘Côr y Corau’, am £2,000 a gwobr Tlws Syr Karl Jenkins, sydd wedi ei enwi ar ôl y cyfansoddwr o Abertawe, un o noddwyr yr ŵyl newydd.

Mae pedwar o feirniaid rhyngwladol eisoes wedi eu dewis ac fe fydd y gystadleuaeth yn digwydd rhwng 30 Mawrth ac 1 Ebrill y flwyddyn nesa’.

Fe fydd perfformiadau cerddorol eraill – gan gorau ac unigolion – hefyd yn rhan o’r ŵyl sy’n cael ei chynnal gyda chefnogaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Caerdydd – ‘i ddechrau’

Dywedodd Eilir Owen Griffiths wrth golwg360 mai yng Nghaerdydd fydd yr ŵyl “i ddechrau” ond “efallai yn y dyfodol y bydd modd symud yr ŵyl i leoliadau eraill o gwmpas de Cymru.”

Ac wrth holi a fydd cefnogaeth ariannol i gorau i deithio i Gymru, dywedodd nad yw hynny’n fwriad gan ddweud bod “hyn yn wir mewn unrhyw ŵyl ar draws Ewrop ac mae corau yn dod i wyliau tramor heb unrhyw gefnogaeth ariannol.”

Ychwanegodd mai’r gobaith ydy cael “balans iach” rhwng corau o Gymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r byd.