Mae angen adran arbennig o fewn Llywodraeth Cymru sydd yn canolbwyntio yn benodol ar Brexit, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru.
Yn ôl Andrew RT Davies, mae angen “Gweinyddiaeth Brexit Gymreig” er mwyn sicrhau bod diddordebau Cymru “yng nghraidd” y trafodaethau Brexit.
Ar hyn o bryd, mae Prif Weinidog Cymru yn gyfrifol am 14 portffolio gan gynnwys materion cyfansoddiadol – gan gynnwys y mater pennaf, sef Brexit.
Dadl Andrew RT Davies yw bod y cyfrifoldebau yma yn “gormod o waith i un dyn” a bod angen adran benodedig wedi ei arwain gan “Weinidog Cymreig dros Brexit”.
400 diwrnod
“Dros 400 diwrnod wedi i Gymru bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae Cymru yn parhau i fod heb weinyddiaeth Brexit fel sydd yn yr Alban a San Steffan,” meddai Andrew RT Davies.
“Er mwyn sicrhau bod diddordebau cenedlaethol Cymru yn aros wrth graidd y trafodaethau Brexit, mae angen adran arnom sydd wedi ei harwain gan weinidog profiadol, fydd wedi ymrwymo i Brexit yn unig.”
Yn wahanol i Gymru, mae’r Alban eisoes yn meddu ar weinyddiaethau sydd yn canolbwyntio’n benodol ar y ffordd y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael Ewrop.