Mae un o Aelodau Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu cynnig gan ddau gynghorydd yn Sir Fflint i geisio gwahardd papur newydd The Sun.

Yn ôl Janet Finch-Saunders, byddai gwaharddiad o’r fath yn “anghyfreithlon” ac yn ymgais ar “sensoriaeth”.

Mae disgwyl i Kevin Hughes, Cynghorydd Annibynnol, yn ogystal â Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd y Cyngor o’r blaid Lafur, gyflwyno’r cynnig yn ystod Cyfarfod Llawn y Cyngor ar Fedi 27.

Mae’r cynnig yn cynnwys gwahardd dod â’r papur i mewn i adeilad y Cyngor Sir yn ogystal â gwahardd mynediad i ohebwyr y papur.

‘Plentynnaidd’

Yn ôl Janet Finch-Saunders, AC Aberconwy, “mae hwn yn symudiad plentynnaidd a sbeitlyd gan y blaid Lafur nad sy’n poeni am yr egwyddor sylfaenol o leferydd rhydd, ac nad sy’n cefnogi gwasg rydd mwyach,” meddai.

Ychwanegodd ei fod yn ymgais ar “sensoriaeth” gan ddweud – “efallai nad ydym yn hoff o rai papurau newydd – ac efallai’n cwestiynu didueddrwydd platfformau eraill – ond mae gennym yr hawl i beidio â derbyn eu hallbwn. Ond ni ddylem gael yr hawl i’w gwahardd nhw.”

Cysylltiad Hillsborough

Dywedodd Kevin Evans, Cynghorydd Gwernymynydd, wrth golwg360 nad yw’n derbyn fod y cynnig yn ymgais ar “sensoriaeth”.

“Mae mwy na digon o bapurau newydd eraill yn genedlaethol, rhanbarthol a lleol ar gael, a’r hyn nad ydyn eisiau gwneud ydy cydweithredu â phapur newydd The Sun.”

Dywedodd ei fod yn teimlo’n gryf am yr achos am ei fod yn gyn-blismon a chyn-newyddiadurwr ac fe dynnodd sylw at gysylltiad agos Sir y Fflint â thrychineb Hillsborough yn 1989.

Ychwanegodd fod y papur wedi “difrodi enw da pobol” gyda’r “pennawd gwarthus wedi’r digwyddiad”.

“Ers hynny maen nhw wedi parhau i ddweud celwyddau a gweithredu mewn ffordd dw i’n teimlo sy’n hollol anghywir,” meddai.

Cyfeiriodd at gynghorau sir Lerpwl, Gorllewin Swydd Gaerlleon a Chaer sy’n ystyried gwneud yr un fath, ac mae disgwyl i gynghorwyr Sir y Fflint bleidleisio ar y cynnig ddiwedd mis nesaf.