Gallai Cerrig yr Orsedd gael eu rhoi ar gae yng nghanol dŵr Bae Caerdydd yn ystod yr Eisteddfod y flwyddyn nesa’.
Cadarnhaodd cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd bod arnofio’r cerrig yn ystryiaeth.
“Dim ond syniad yw e’ ar y foment achos mae gennym ni her fawr,” meddai Ashok Ahir, sy’n dweud bod yr awgrym yn deillio o weld cae pêl-droed yn arnofio yn y bae adeg cynnal ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd.
“Ond bydd yn costio eitha’ lot o arian, mae rhywun wedi dweud i mi bod UEFA wedi talu £50,000, ond dw i ddim yn siŵr os yw hwnna’n gywir.
“Nid jyst Cylch yr Orsedd, mae gen i syniadau i gael pethau celfyddydol ar y bae hefyd. Mae’n Flwyddyn y Môr ar gyfer [bwrdd twristiaeth] Croeso Cymru y flwyddyn nesaf, felly rydyn ni eisiau defnyddio’r môr mewn rhyw ffordd.
“Bydd yn helpu gyda phroblemau diffyg tir ond efallai hefyd yn rhyw fath o ganolbwynt i’r cyhoedd i lawr yn y bae i weld beth sy’n digwydd fan yna.”
Y maes ‘ddim yn rhy gyfyng’
Nid yw Ashok Ahir yn poeni y bydd maes y bae, heb ffens na thâl mynediad, yn rhy gyfyng i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Ar y foment, ry’n ni’n edrych ar y bae cyfan, felly i lan at Borth Teigr,” meddai.
“So os ti’n meddwl am lle mae’r Dr Who Experience nawr, erbyn blwyddyn nesa’ bydd y Dr Who Experience yn mynd felly byddwn yn gallu rhoi adeiladau dros dro lawr fan yna.”
Mae’r Eisteddfod eisoes wedi cadarnhau y bydd Canolfan y Mileniwm yn cael ei defnyddio fel Pafiliwn, gyda’r cyngherddau a’r prif gystadlaethau yn cael eu cynnal yn Theatr Donald Gordon.
Mae disgwyl i’r Lle Celf fynd i’r Senedd a bydd y maes carafanau ar Gaeau Pontcanna. Dydy mannau eraill y maes heb eu cadarnhau eto.
“Her” codi arian
Bu’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd degawd yn ôl, felly yr “her fwyaf”, meddai Ashok Ahir, yw codi’r £325,000 gan fod pobol eisoes wedi rhoi arian ac amser i’r Brifwyl yn 2008.
Ond mae’r ffaith fod cymaint o Gymry Cymraeg ifanc yng Nghaerdydd erbyn hyn, yn enwedig mewn ardaloedd fel Grangetown, yn fantais meddai.