Mae’r nifer fwyaf erioed o bobol wedi cael eu hurddo i’r Orsedd eleni, gyda chawr o chwaraewr rygbi rhyngwladol yn eu plith.
Fe gafodd George North ei fagu yn Ynys Môn, ac mae’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Bodedern, nepell o safle’r Eisteddfod Genedlaethol.
Dywed ‘Siôr y Gogledd’, a defnyddio ei enw barddol, y bu’n dipyn o drafferth i geisio egluro wrth aelodau ei dîm rygbi yn Northampton i le’r oedd yn mynd heddiw.
Roedd yn anodd egluro’n union beth yw’r Eisteddfod a’r Orsedd, meddai, gan nad oes dim byd arall i’w gymharu.
“Ro’n i’n trio cael sgwrs efo Jim Mallinder, ein hyfforddwr ni am yr Eisteddfod a’r diwrnod yma, ac oedd y sgwrs bach yn hir, yn trio egluro iddo fo be’ oedd yr Eisteddfod a’r Orsedd a phob dim,” meddai George North.
“Roedd e jyst yn dweud bod e’n beth mawr i ti [George] a hanes Cymru.”
Dywed y chwaraewr rygbi sydd wedi ei fedyddio yn ‘Gogzilla’ bod cael ei dderbyn i Orsedd y Beirdd yn beth “enfawr” iddo, er y bydd yn gorfod brysio yn ôl i Northampton i barhau â’i hyfforddiant.
“Mae’n neis i gael diwrnod off, mae’n amser prysur nawr, y pre-season a bydda i’n mynd yn syth yn ôl p’nawn ma.”
Nia Roberts – “Un JO wedi mynd, ond un arall wedi dod”
Y gyflwynwraig Nia Roberts oedd un arall o Fôn yn cael ei hurddo heddiw a dywed bod y profiad yn “chwerw felys” a hithau wedi colli ei thad, y diweddar J O Roberts, y llynedd.
“Mae wir yn fraint ac yn anrhydedd. Dw i’n gwybod bod pobol yn gor-ddefnyddio’r geiriau yna ond mae cael bod yn rhan o rywbeth sydd mor bwysig i ni fel cenedl ymhlith pobol sydd wedi gwneud cyfraniadau mawr mewn cymaint o feysydd gwahanol, dw i wirioneddol yn gwerthfawrogi,” meddai.
“Nid pawb sy’n cael eu hurddo adre’ ond mae’r ffaith bod o ar dir Môn hefyd – Ynys y Derwyddon – mae hynny wrth gwrs yn ychwanegu at hapusrwydd y diwrnod.
“Ac eto mae yna ryw chwerw felys hefyd, buasai’n braf petasai ambell i wyneb yn gweld yr urdd hefyd.
“Ond dyna fo, roedd dewis yr enw yn rhwydd – ‘Nia J O’ – dyna oedd enw fy nhad yn yr Orsedd ac felly mae un J O wedi mynd ond mae un arall wedi dod.”
Cyfrannu at y Gymraeg ym maes iechyd
Cafodd Gwerfyl Roberts, sy’n uwch ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor, ei hurddo am ei chyfraniad at wella’r ddarpariaeth Gymraeg o fewn y maes iechyd.
“Mae’r dirwedd wedi newid bellach, mae cymaint yn fwy o gefnogaeth oherwydd bod gennym ni ddeddfwriaeth, mae gennym ni strategaethau llawer cryfach rŵan,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n gobeithio bod pethau yn newid, rydan ni’n ceisio newid hynny yn y ffordd rydan ni’n darparu ein cyrsiau yn ddwyieithog, yn enwedig ym maes nyrsio, fel bod ni’n paratoi nyrsys y dyfodol.
“Mae pethau yn sicr yn her o hyd, dydy’n polisïau ddim yn ddigon cryf eto, mae yna llawer iawn o waith i wneud ond mae yna awydd ‘sŵn i’n dweud.
“Mae angen hefyd cofio bod angen argyhoeddi’r cyhoedd hefyd, a rhoi’r gefnogaeth iddyn nhw i ddweud ‘dw i eisiau gwasanaeth yn Gymraeg yn yr un safon â’r Saesneg’ .
Diolchodd i’w diweddar rieni am gael bod yma heddiw – gan ddweud eu bod wedi rhoi magwraeth Gymraeg iddi mewn ardal Saesneg yn y Trallwng.
“Diolch iddyn nhw bod fi yma heddiw, wedi rhoi’r iaith i fi ac wedi rhoi’r gwerthoedd i fi fedru brwydro.”
Ei henw barddol yw ‘Gwerfyl Cadfan’ – ar ôl ei rhieni.