Mae’r Uwch Gynghrair yn ôl heno gyda phawb yn dyfalu ai dyma’r tymor pan fydd rhywun yn cipio’r teitl oedi ar y Seintiau Newydd, y pencampwyr presennol sydd wedi ennill y tlws chwe gwaith yn olynol.

Fe fydd y Seintiau yn cychwyn amddiffyn eu coron ym Mangor heno heb eu hyfforddwr Craig Harrison sydd wedi gadael i hyfforddi Hartlepool.

Yn ogystal â’r Seintiau Newydd, mae gan Aberystwyth reolwr newydd ac mae’r Barri a Phrestatyn yn ôl yn y gynghrair – felly mae digon i edrych ymlaen ato.

Mae cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Owain Tudur Jones, yn rhan o dîm sylwebu rhaglen Sgorio sy’n darlledu gemau yn fyw.

Fe gafodd yr Uwch Gynghrair lansiad ar Faes y Brifwyl echdoe gyda chwaraewr o bob un o’r 12 clwb yno.

“Roedd yn wych i fod yn rhan o’r lansiad diwrnod o’r blaen yn yr Eisteddfod a newyddion da bod noddwr newydd i’r gynghrair sef JD Football am dair blynedd,” meddai Owain Tudur Jones wrth golwg360.

“Rwy’n wir meddwl mai’r Seintiau bydd y tîm i guro, ac mae rhaid dangos parch i’r gwaith roedd Craig Harrison yn ei wneud yno. I fod yn gyson ac ysgogi’r chwaraewyr am gyfnod mor hir, roedd yn dipyn o gamp. Bydd yn dipyn o brawf [i’r hyfforddwyr newydd] Scott Ruscoe a Steve Evans gael yr un effaith. Hefyd gyda Cei Connah yn dechrau symud i fod yn broffesiynol mi fyddan nhw yn mynd amdani. Rwy’n meddwl bod hi braidd rhy gynnar i Fangor gystadlu am y bencampwriaeth, yn sicr maen nhw â chwaraewyr da a phrofiad a bydd Gary Taylor-Fletcher [yr is-reolwr] wedi dysgu dipyn o’r flwyddyn ddiwethaf.”

Rheolwr newydd Aberystwyth

Cyn-reolwr Bangor sydd wrth y llyw yn Aberystwyth ar gyfer y tymor newydd. Fe gipiodd Nev Powell Uwch Gynghrair Cymru gyda’r Dinasyddion yn 2011 – y tîm diwethaf i lwyddo i orffen uwchben y Seintiau Newydd yn y gynghrair.

“Bydd yn werth i wylio sut bydd Neville Powell yn ymdopi yn Aberystwyth,” meddai Owain Tudur Jones.

“Mae nifer o glybiau’r dyddiau hyn yn mynd am hyfforddwyr ifanc sydd â’r bathodynnau hyfforddi, ond mae’n rhaid cofio be wnaeth Powell gyflawni yn dechrau ei gyfnod â Bangor. Hefyd mae yn adnabod y gynghrair a chysylltiadau da, a’n sicr dros y blynyddoedd diwethaf mae Aber yn un o’r clybiau â photensial sydd wedi tangyflawni.”

Gemau’r penwythnos agoriadol

Bangor v Y Seintiau Newydd | Nos Wener – 19:45

Prestatyn v Cei Connah | Nos Wener – 19:45

Y Bala v Y Drenewydd | Nos Wener – 19:45

Derwyddon Cefn v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 14:30

Llandudno v Caerfyrddin | Dydd Sadwrn – 14:30

Y Barri v Aberystwyth | Dydd Sul – 17:15 (YN FYW AR S4C)