Emyr Lewis - rhybudd am Brexit (Llun Golwg360)
Mae cyfreithiwr amlwg wedi rhybuddio bod y bygythiad i’r iaith Gymraeg yn cynyddu wrth i broses Brexit ddechrau.

Fe fydd y Gymraeg yn colli amddiffyniad E, meddai Emyr Lewis, mae Prydeindod mwy ymwthiol ar gynnydd ac fe fydd Siarter pwysig sy’n rhoi statws i ieithoedd llai yn cael ei ddileu.

Mae’r arbenigwr cyfansoddiadol, sy’n traddodi darlith cwmni Iaith yn yr Eisteddfod ddydd Iau, yn galw am Ddeddf Gyfansoddiadol, os bydd Brexit yn digwydd, a honno’n cydnabod lle holl ieithoedd brodorol y Deyrnas Unedig ac ieithoedd eraill hefyd.

Gadael

Yn ei ddarlith, Ffarwelio â Hen Gyfeillion: Brexit, San Steffan a’r Gymraeg, fe fydd yn egluro’i bryderon am ddyfodol yr iaith wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae llywodraethiant San Steffan dros Gymru wedi bod yng nghyd-destun yr Undeb Ewropeaidd lle mae amlieithrwydd yn norm,” meddai wrth Golwg360.

“Wrth ymadael ag Ewrop, mae Prydain a Chymru yn ymadael â’r elfen yna. Y peryg ydi nad ydi San Steffan yn deall ystyr dwyieithrwydd fel y mae erbyn hyn.”

‘San Steffan yn ailorseddu ei hun’

Peryg arall, meddai, Emyr Lewis, oedd fod San Steffan a’r Llywodraeth yno’n ceisio cryfhau ei grym tros y tair gwlad arall.

“Oddi mewn i’r Bil Ymadael Mawr [sy’n troi deddfau Ewropeaidd yn ddeddfau Prydeinig] , mae yna arwyddion o San Steffan yn ailorseddu ei hun yn wyneb y sefydliadau datganoledig.

“Mae yna oblygiadau dwys i’r Gymraeg a ieithoedd lleiafrifol eraill – yr ieithoedd cynhenid ac ieithoedd eraill yn gyffredinol.”

Dileu Siarter Hawliau

Mae’r trydydd bygythiad hefyd yn y Bil meddai, gan fod hwnnw’n nodi’n glir na fydd Siarter Hawliau Sylfaenol Ewrop yn cael ei drosglwyddo i gyfraith gwledydd Prydain.

“Oddi mewn i’r Siarter, mae yna eiriau – ychydig eiriau, ond rhai pwysig – sy’n cydnabod amrywiaeth ieithyddol. Fydd y Siarter ddim yn parhau yn rhan o gyfraith y Deyrnas Gyfunol ar ôl y dyddiad ymadael.”

Un rhan o’r ateb, yn ôl Emyr Lewis, fyddai Deddf Gyfnasoddiadol yn cydnabod amrywiaeth ieithoedd trwy’r Deyrnas unedig – er na fyddai’n fwy na datganiad gwleidyddol, fe fyddai ei ddylanwad yn fawr.

Fe fydd darlith Emyr Lewis i Iaith, Ymadael â Hen Gyfeilion: Brexit, San Steffan a’r Gymraeg ym Mhabell Cymdeithasau 2, Ddydd Iau am 3.30yp.