Dydi Sports Direct ddim wedi rhoi gorchymyn i’w staff beidio â siarad Cymraeg, yn ôl llefarydd ar ran y cwmni.

Roedd yn ymateb ar ôl i Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws gyhoeddi ei bod hi’n cynnal ymchwiliad i honiadau bod arwyddion wedi ymddangos yn siop y cwmni ym Mangor yn gwahardd staff rhag siarad Cymraeg.

Mae Sports Direct wedi cadarnhau bod ymchwiliad ar y gweill – gan gynnwys tarddiad yr arwydd, ei ddilysrwydd a’i gyd-destun.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni wrth golwg360 ddoe fod yr arwydd yn “fwy perthnasol i’w siopau yn Lloegr na Chymru”.

Ond mae’r cwmni bellach wedi ymhelaethu mewn datganiad swyddogol, gan ddweud eu bod yn “annog y defnydd o’r iaith frodorol”.

“Mae Sports Direct yn fusnes rhyngwladol sy’n gweithredu mewn nifer o awdurdodaethau.

“Rydym yn annog y defnydd o’r iaith frodorol a fyddem ni byth yn rhoi gorchymyn i’n staff i’r gwrthwyneb.

“Nid polisi’r cwmni yw cyfyngu ar y defnydd o’r iaith Gymraeg na iaith unrhyw wlad arall.”

Ymchwiliad y Comisiynydd

Daeth cadarnhad ar gyfri Twitter y Comisiynydd yn dweud ei bod hi “wedi rhoi cyfarwyddiadau i’w swyddogion agor ymchwiliad dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011″.

Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am ymchwiliad.

Cefndir

Daeth arwyddion i’r amlwg ddoe oedd yn awgrymu bod staff y siop ym Mangor wedi’u gwahardd rhag siarad Cymraeg.

Roedd yr arwydd, sy’n cael ei rannu ar wefan Twitter, yn dweud mai “Saesneg yw iaith swyddogol y cwmni”, a bod “rhai aelodau staff wedi bod yn siarad â’i gilydd mewn ieithoedd ac eithrio Saesneg”.

Mae’r nodyn yn “atgoffa staff fod rhaid iddyn nhw siarad Saesneg â’i gilydd bob amser” er mwyn i’r “holl staff ddeall ei gilydd”.

Mae’r polisi, meddai’r cwmni, yn cynnwys “sgyrsiau personol yn ystod oriau gwaith”.

‘Peryglon’

Wrth gyfiawnhau’r polisi, dywed yr arwydd fod siarad unrhyw iaith ac eithrio Saesneg yn achosi “amryw o beryglon… gan gynnwys iechyd a diogelwch”, a’i fod “er lles pawb fod staff yn deall ei gilydd bob amser”.

Serch hynny, dywed y cwmni y gall sgyrsiau preifat rhwng aelodau staff ar y safle y tu allan i oriau gwaith fod “yn newis iaith” y staff.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni wrth golwg360 fod yr arwydd yn “fwy perthnasol i’w siopau yn Lloegr na Chymru”.

Twitter

Ar ei thudalen Twitter, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg: “Yn dilyn yr honiadau am bolisi iaith Sports Direct, mae’r Comisiynydd wedi rhoi cyfarwyddiadau i’w swyddogion agor ymchwiliad dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.”