Y diweddar Betty Jordan
Mae dyn 54 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio Elizabeth Jordan ym Mangor.

Fe fydd Paul Martin Jordan, 54, o Fangor yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon fore Gwener (Awst 4).

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud y bydd y nifer ychwanegol o blismyn yn aros ar stad Maesgeirchen am y tro, er mwyn gwneud i bobol deimlo’n saffach.

“Rydan ni’n ddiolchgar iawn i bobol y gymuned am eu help efo’r achos yma,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Mae swyddogion yn dal i fod o gwmpas, ac mae croeso i unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr achos ddod aton ni i siarad.”