Vince Cable (trwydded Llywodraeth Agored)
Mae arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi rhybuddio y bydd taliadau i ffermwyr Cymru yn mynd tros ymyl dibyn ar ôl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Exit o Brexit” yw slogan Vince Cable, a gafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad i arwain y blaid a gollodd ei haelod seneddol Cymreig ola’ yn yr Etholiad Cyffredinol.
Ar ei ddiwrnod cynta’ ers dod i’r swydd, fe ddywedodd cyn Ysgrifennydd Busnes y llywodraeth glymblaid y byddai’r holl daliadau amaethyddol a chymorth rhanbarthol yn dod i ben.
Rhybudd tros Airbus hefyd
Er fod addewid i gadw taliadau amaethyddol tan 2022, fe ddywedodd Vince Cable y bydden nhw’n “cwympo tros y dibyn” ar ôl hynny.
Roedd ganddo rybudd i fusnesau Cymreig hefyd, gan gynnwys ffatri anferth Airbus ym Mrychtyn yn Sir y Fflint.
Roedd dyfodol honno’n dibynnu’n llwyr ar fod gwledydd Prydain yn aros yn yr Undeb Tollau, meddai mewn cyfweliad ar Radio Wales.