Côr Merched Sir Gâr
Mae 42 o ferched o Sir Gaerfyrddin wedi dechrau ar eu taith i Latfia yr wythnos hon lle byddan nhw’n cystadlu yng nghystadleuaeth Côr yr Eurovision.
Fe fyddan nhw’n cynrychioli Cymru a gweddill gwledydd Prydain ddydd Sadwrn (Gorffennaf 22) ar lwyfan y byd ym mhrifddinas Latfia, sef Riga.
Fe lwyddon nhw i gipio’u lle yn y gystadleuaeth ar ôl ennill cystadleuaeth Côr Cymru a ddarlledwyd ar S4C yn gynharach eleni.
Mae’r côr yn rhan o wasanaeth cerdd Sir Gaerfyrddin ac yn cael ei arwain gan yr arweinydd o Gastellnewydd Emlyn, Islwyn Evans.
Mae Cyngor Sir Gâr wedi dymuno’n dda iddyn nhw gyda’r Cynghorydd Gareth Morgans yn dweud – “mae hwn yn gyrhaeddiad arbennig i’r disgyblion o’n sir ac yn rhoi Sir Gâr ar y llwyfan rhyngwladol.”