Carwyn Jones (ar y dde) gyda Jeremy Corbyn ac arweinwyr Llafur wedi cyfarfodydd gyda phrif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd (Llun PA)
Mae’r Ysgrifennydd Brexit wedi gwadu honiadau prif weinidogion Cymru a’r Alban y bydd y broses yn cipio grym oddi ar seneddau’r ddwy wlad.
Nid ymgais i ddwyn grym yw hon, meddai David Davis, ar ôl i Carwyn Jones a Nicola Sturgeon gael cyfarfod gyda phrif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r ddau brif weinidog wedi bygwth gwrthod rhoi cefnogaeth gyfreithiol eu seneddau i gynlluniau Llywodraeth Prydain i ddod â grym o’r Undeb yn ôl i wledydd Prydain.
Datganiad ar y cyd
Mewn datganiad ar y cyd, fe ddywedodd y ddau Brif Weinidog fod Llywodraeth Prydain yn ymosod ar seiliau datganoli ac o fygwth sefydlogrwydd economïau’r ddwy wlad.
Maen nhw’n mynnu bod y Mesur (Gadael) yr Undeb Ewropeaidd yn dychwelyd grymoedd o Frwsel i Lundain hyn hytrach nag i Gaerdydd neu Gaeredin, hyd yn oed mewn meysydd sydd wedi eu datganoli.
Mae Cadeirydd Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad, David Rees, hefyd yn honni bod Llywodraeth Prydain yn “defnyddio gadael yr Undeb Ewropeaidd i atal y Cynulliad rhag defnyddio’r pwerau sydd ganddo ar hyn o bryd ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd”.
‘Rhwystr’
Heddiw, mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, wedi rhybyuddio y gallai’r gwrthwynebiad fod yn rhwystr rhag cael y fargen orau i bobol Cymru.
Fe ddywedodd wrth Radio Wales ei fod wedi cael “cyfarfod da” gyda Carwyn Jones ddoe a’i fod wedi “synnu braidd” wrth glywed rhai o’r datganiadau cyhoeddus wedyn.
- Mae’r Blaid Lafur hefyd wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o “gipio grym” trwy roi rhagor o hawliau gweithredu i weinidogion, heb ganiatâd y Senedd.