Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd am dwyllo pobol oedd eisiau bod yn denantiaid i dalu miloedd o bunnau iddo.

Roedd Neil Jackson, 35, o Ben-y-lan, yn honni ei fod yn landlord ac yn casglu taliadau o tua £1,400 gan unigolion oedd yn ymateb i’w hysbysebion ar y we.

Roedd yn tywys pobol o gwmpas ei gartref gan honni ei fod yn bwriadu rhentu’r adeilad ac ar ôl derbyn taliadau gan yr unigolion yma, roedd yn creu esgusodion ffug oedd yn eu hatal rhag symud i mewn.

Ar un achlysur dywedodd wrth un o’r unigolion y twyllodd, fod ei blentyn wedi marw a’i fod eisiau aros yn y tŷ er mwyn wylo yn ystafell y plentyn.

Cafodd ei arestio yn Nhachwedd 2016, ond cafodd ei ail arestio tra ar fechnïaeth pan ddaeth troseddau eraill i’r amlwg.

Plediodd yn euog ym mis Ebrill i ddau gyhuddiad o dwyll a chynrychiolaeth ffug.

Effaith ar eraill

“Gobeithiaf bydd dedfryd heddiw yn atal eraill rhag troseddu,” meddai’r Ditectif Cwnstabl Angela Tchalabi.

“A gobeithiaf bydd treulio amser dan glo yn helpu Neil Jackson i sylweddoli sut mae wedi effeithio nifer o unigolion a theuluoedd, gan gynnwys ei deulu ei hun.”