Dale Pike Llun: PA
Mae cyfarwyddwr cwmni peli golff o Lyn-nedd wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd ar ôl i’w ffrind foddi mewn llyn wrth gasglu peli golff.
Roedd Dale Pike, 25, i fod i oruchwylio Gareth Pugh, 29, pan aeth i mewn i’r dŵr ar gwrs golff Peterstone, ger Casnewydd ar Chwefror 11 y llynedd i gasglu peli.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Dale Pike – a oedd wedi sefydlu cwmni Boss Golff Balls gyda’i dad, Jonathan Pike- wedi defnyddio offer plymio anaddas a’i fod wedi anwybyddu canllawiau iechyd a diogelwch.
Nid oedd yn gymwys i blymio ac nid oedd ganddo’r hyfforddiant i oruchwylio eraill oedd yn plymio, clywodd y llys.
Roedd Gareth Pugh yn dad i blentyn ac roedd ganddo anawsterau dysgu. Roedd wedi casglu 341 o beli golff pan foddodd ar ôl colli ei offer anadlu. Erbyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd roedd wedi bod dan ddŵr am 70 munud.
Roedd cwmni Dale Pike yn casglu peli o gyrsiau golff ac yna’n eu hail-werthu ar y rhyngrwyd. Roedd Gareth Pugh yn gweithio i’r cwmni yn achlysurol ac yn ennill £40 y dydd am gasglu’r peli.
Yn ystod gwrandawiad ym mis Mai plediodd Dale Pike yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod.
Fe wnaeth ei dad, Jonathan Pike, 47 oed, o Aberdâr, bledio’n ddieuog i’r un cyhuddiad mewn gwrandawiad cynt.
“Anwybyddu cyngor”
Wrth ddedfrydu Dale Pike i 32 mis o garchar dywedodd y Barnwr Keith Thomas: “Gwnaethoch chi anwybyddu’r risg a chyngor oherwydd yr oeddech yn pryderu am golli elw.
“Gwnaethoch chi anwybyddu’r holl gyngor diogelwch er eich budd eich hun. Rwyf yn derbyn eich bod chi bellach yn difaru caniatáu i hyn ddigwydd ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn eich ple.”