Mae ysgolheigion Cymraeg yn defnyddio’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth “lai a llai” yn ôl cyn-Geidwad Llawysgrifau’r corff.

Daniel Huws yw ein hawdurdod pennaf ar lawysgrifau Cymreig, ac mae e’n dweud bod y Llyfrgell Genedlaethol yn gorddibynnu ar ddigido deunyddiau ar draul arbenigedd go-iawn.

“Mae ysgolheigion yn mynychu’r llyfrgell lai a llai yn rhannol am bod cymaint o’r deunydd ar gael yn ddigidol, ond yn rhannol am fod yna ddiffyg arweiniad gan y Llyfrgell at ddefnyddiau sy’ ddim i gael yn ddigidol,” meddai Daniel Huws sy’n gyn-Geidwad Llawysgrifau a Chofysgrifau y Llyfrgell Genedlaethol,  a bellach dros ei 80 oed.

“Mae’r arbenigwyr wedi mynd i gredu bod digidol yn ateb bob dim. Dydi o ddim. Mae modd dychmygu y bydd popeth yn medru cael ei ddigido, ac anghofio’r cwestiynau sut i storio yn ddigidol.”

Ymateb y Llyfrgell

Mewn ymateb i honiadau Daniel Huws yng nghylchgrawn Golwg, dywed llefarydd ar ran y Llyfrgell Genedlaethol:

“Nid yw’r peryg o golli arbenigedd yn unigryw i’r Llyfrgell Genedlaethol: wrth i sefydliadau orfod torri’r gôt yn ôl y brethyn, y mae peryglon fel hyn yn eu hwynebu’n ddyddiol.

“Ar hyn o bryd rydym yn datblygu cynllun olyniaeth a fydd, o’i weithredu’n briodol, yn lliniaru’r peryg o weld arbenigedd ‘yn diflannu’.

“Rydym yn hynod ffodus yn yr arbenigedd ar lawysgrifau sydd gennym ar hyn o bryd, ac yn cydnabod bod rhaid i sefydliad fel y Llyfrgell gynnal a datblygu arbenigeddau o’r fath.

“Mae nifer cynyddol o ddeunyddiau yn ddigidol anedig erbyn hyn, ac nid yw polisi’r Llyfrgell yn wahanol i unrhyw lyfrgell genedlaethol arall o ran cynhyrchu copïau dirprwyol o’r cyfryw greadigaethau.”

Rhagor gan Daniel Huws yng nghylchgrawn Golwg.