Ashleigh Edwards a Heulwen Davies
Mae gwefan newydd yn cael ei lansio heddiw er mwyn rhannu syniadau, tips a straeon am y profiad o fagu teulu – yn Gymraeg.
“Does yna ddim byd dwyieithog sy’n adlewyrchu’r profiad o fagu plant yng Nghymru,” meddai Heulwen Davies, un o sylfaenwyr y wefan mamcymru.
Dywedodd fod nifer o fforymau trafod ar gael yn Saesneg gan gynnwys Mumsnet, ac mi gafodd y syniad o sefydlu blogzine – cyfuniad o gylchgrawn a blog ar y We – ar ôl blogio am y profiad o fagu ei phlentyn bedair oed, Elsi Dyfi.
Un arall sydd wrth wraidd y wefan ydy Ashleigh Edwards o ardal Tregaron yng Ngheredigion.
Daw’n wreiddiol o America, ac mae’n fam i saith o blant rhwng pedair a 21 oed.
Dywedodd ei bod am ddysgu Cymraeg, ac annog eraill i wneud yr un fath, drwy rannu tips ar y wefan newydd.
Eisoes mae detholiad o erthyglau ar y wefan, ac maen nhw yn gobeithio llunio rhestrau am y llefydd bwyta a gweithgareddau sy’n addas i deuluoedd yng Nghymru.
Creu cymuned ar-lein
“Mae’n gyfle inni gyd ddysgu o’n gilydd, rhannu syniadau a tips gan ein bod yn mynd drwy’r un peth,” meddai Heulwen Davies wrth golwg360.
Fe fyddan nhw hefyd yn gwerthu nwyddau drwy eu siop ar-lein gyda rhan o’r elw’n mynd at elusen hosbis i blant, Tŷ Hafan.
“Y syniad ydy creu cymuned ddwyieithog ar-lein fel nad ydyn ni’n cau’r drws ar unrhyw fam yng Nghymru,” ychwanegodd Heulwen Davies am Mam Cymru.