Mae cynghorau yng Nghymru yn tanwario arian a ddylai fod yn cael ei ddosbarthu i bobol sy’n ei chael hi’n anodd talu rhent, yn ôl elusen Shelter Cymru.

Mae cynghorau Cymru yn derbyn arian o gronfa Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (DHP) bob blwyddyn gan Lywodraeth Prydain er mwyn ei roi i bobol sydd heb fudd-dal tai digonol i dalu rhent.

Os nad ydy’r cynghorau yn gwario’r arian ar amser mae’n mynd yn ôl at Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae Cymru yn derbyn llai’r flwyddyn ganlynol.

Yn ôl Shelter Cymru mi wnaeth cynghorau Cymru anfon £289,000 yn ôl i San Steffan rhwng 2015 a 2016.

Mae’n debyg mai’r pum cyngor wnaeth ddychwelyd y mwyaf o arian i San Steffan oedd Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Blaenau Gwent, Ceredigion a Wrecsam.

Tanwario “brawychus”

“Mae’r rhan fwyaf o gynghorau yn deall pa mor bwysig yw’r cymorth hwn i bobl,” meddai Cyfarwyddwr Shelter Cymru, John Puzey.

“Ond mae hyn yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy brawychus bod llond dwrn o gynghorau yn dal i danwario, gan o bosib wrthod ceisiadau gan bobl a allai fod wedi dod yn ddigartref o ganlyniad. Bydd hyn yn ei dro yn costio mwy i wasanaethau digartrefedd y cynghorau yn y pen draw.”

“Eleni mae Cymru wedi gweld y gronfa DHP yn cynyddu o chwarter. Golyga hynny bod gan y cynghorau her enfawr ar eu dwylo i gael yr arian at y bobl sydd ei angen. Gobeithiwn y bydd hyn yn flaenoriaeth iddynt.”