Mae cwest wedi clywed am amgylchiadau marwolaethau dau filwr ar faes tanio yn Sir Benfro.

Bu farw’r Corporal Matthew Hatfield a’r Corporal Darren Neilson, yn dilyn ffrwydriad ar safle Castell Martin ar Fehefin 14.

Yn siarad gerbron y cwest dywedodd Prif Arolygydd Heddlu Dyfed Powys, Ross Evans, bod gwasanaethau brys wedi cael eu galw i’r safle yn dilyn “ffrwydrad mecanyddol” mewn tanc.

Dywedodd yr oedd Matthew Hatfield yn “llwytho ffrwydron mewn i’r tanc” ac mi roedd Darren Neilson “yn y twred” pan ffrwydrodd y cerbyd.

Cafodd Matthew Hatfield ei gludo i ysbyty Treforys yn Abertawe a chafodd Darren Neilson ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, a bu farw’r ddau ar Fehefin 15.

Mae casgliadau dros dro yn awgrymu y bu farw Matthew Hatfield o’u losgiadau a bu farw Darren Neilson pan wnaeth y ffrwydrad achosi i’w galon stopio curo.

Ymchwiliadau

Mae ymchwiliad heddlu ar y cyd â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ac ymchwiliad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn eisoes wedi cael eu lansio.

Daw’r achos yma ond pum mlynedd wedi i filwr 21 blwydd oed farw ar safle Castell Martin pan gafodd ei saethu yn ei ben gan ddryll oedd yn saethu yn y cyfeiriad anghywir.