Mae grŵp arbenigol wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau diogelwch mewn blociau o fflatiau yn sgil trychineb Tŵr Grenfell yn Llundain.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant y byddai’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o dai cymdeithasol a’r gwasanaethau tân ac y byddai’n cael ei gadeirio gan ei brif ymgynghorydd tân.
Fe wnaeth Carl Sargeant y cyhoeddiad i Aelodau Cynulliad yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell lle mae nifer y meirw wedi codi i 79 o bobl.
Dywedodd nad oes gan yr un o’r 36 o adeiladau yng Nghymru sy’n saith llawr o uchder neu fwy, sy’n eiddo i gynghorau neu landlordiaid cymdeithasol, y gorchuddion plastig a gafodd eu defnyddio ar Dŵr Grenfell.
Mae na ddyfalu y gallai’r gorchuddion plastig y tu allan i’r adeilad fod wedi cyfrannu at ledu’r tân.
Dywedodd Carl Sargeant eu bod yn cydymdeimlo’n ddwys gyda’r rhai a gafodd eu heffeithio gan y trychineb.
Cyhoeddodd hefyd bod saith bloc o fflatiau yng Nghymru wedi cael systemau chwistrellu dŵr ac y byddai eu cynnwys mewn tai newydd ac fel rhan o gynlluniau adnewyddu yn helpu i leihau’r risg o farwolaeth neu niwed oherwydd tân.
Ychwanegodd bod angen “dysgu gwersi” o’r hyn ddigwyddodd yn Llundain.