Mae dyn 18 oed wedi cael ei drywanu ar stryd yng Nghaerdydd y prynhawn yma.

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Meteor yn ardal Adamsdown y ddinas.

Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau.

Mae’r heddlu’n dal i fod ar y safle, ac mae’r ffordd rhwng Stryd Moira a Street Pearl ynghau.

Dydy’r heddlu ddim yn trin y digwyddiad fel un brawychol, ac maen nhw wedi apelio am dystion.