Y llyfrgell yn Erddig
Mae’n ddeugain mlynedd eleni ers i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru agor ystâd Erddig ger Wrecsam i’r cyhoedd.

Philip Yorke III oedd sgweier olaf y plasty sy’n deillio’n ôl i’r 17eg ganrif, ac yn 1973 fe drosglwyddodd y plasty a’r tiroedd i’r ymddiriedolaeth, gyda’r safle’n agor i’r cyhoedd yn 1977.

Ac i ddathlu’r deugain eleni mae’r Ymddiriedolaeth wedi llunio ffilm ac arddangosfa yn adrodd hanes a phenderfyniad anodd y sgweier, sef ‘O Rwbel i Ryfeddod’.

Dirywio

Er i’r sgweier roi’r plasty yn rhodd i’r Ymddiriedolaeth, fe gostiodd £1 miliwn a chymryd pedair blynedd i adfer y tŷ 70 ystafell a’r gerddi.

Roedd gwaith mwyngloddio o dan y tŷ ar ôl y rhyfel wedi achosi i’r adeilad suddo 5 troedfedd; roedd y to wedi pydru ac yn gollwng ac roedd casgliad y teulu o 30,000 o baentiadau, dodrefn, addurniadau a thlysau yn dirywio.

Erbyn heddiw mae 47 aelod o staff a 250 o wirfoddolwyr yn gweithio i gynnal yr ystâd sy’n cynnwys 1,200 erw o barcdir.

 

‘Amser a gofal’

“Nid costau ariannol yn unig sydd ynghlwm ag edrych ar ôl tŷ o’r maint hwn, mae gofyn am lawer o amser a gofal,” meddai Jamie Watson, Rheolwr Cyffredinol Erddig.

“Yn anffodus, daeth i’r pwynt lle nad oedd yn bosibl i Philip barhau i wneud hynny, ond rydym yn ffodus iawn i gael ein tîm a haelioni ein gwirfoddolwyr, ymwelwyr a chefnogwyr i gadw’r cof am Philip yn fyw a gwarchod ei gartref a’i holl gynnwys, yn ôl ei ddymuniad.”