Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns (Llun o'i wefan)
Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi cael cadw ei swydd wrth i Brif Weinidog Prydain, Theresa May ad-drefnu ei chabinet.

Mae e’n un o dri Chymro yn y cabinet, ynghyd â’i ddirprwy Guto Bebb a’r Gweinidog Brexit, David Jones.

Mae David Jones a Guto Bebb yn aros i glywed eu tynged.

Daw’r ad-drefnu ar ôl i’r Ceidwadwyr golli eu mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau, sy’n golygu bod rhaid iddyn nhw droi at y DUP, y blaid Wyddelig, i’w cefnogi.

Collodd y Ceidwadwyr dair sedd yng Nghymru – Gŵyr (Byron Davies), Gogledd Caerdydd (Craig Williams) a Dyffryn Clwyd (James Davies).

Dryswch

Roedd peth dryswch ynghylch arweinyddiaeth y Ceidwadwyr Cymreig yn ystod yr ymgyrchu, wrth i Darren Millar, ac nid Alun Cairns, gynrychioli’r blaid yn absenoldeb yr arweinydd yn y Cynulliad, Andrew RT Davies.