Mae Mark Williams wedi mynd.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli eu hunig Aelod Seneddol yng Nghymru, wedi i Blaid Cymru gipio Ceredigion oddi arnyn nhw.

Dyma’r tro cyntaf i Gymru fod heb Aelod Seneddol Rhyddfrydol ers 1859.

Daeth siom i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Mark Williams, ar ôl i Ben Lake – sy’n 23 oed ac yn enedigol o Lambed – gipio Ceredigion ar ran Plaid Cymru gyda mwyafrif o 104 o bleidleisiau.

Yn ôl llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol mae heddiw’n “ddiwrnod trist i ryddfrydiaeth yng Nghymru.”

“Mae Cymru wedi colli gwir lais Rhyddfrydol yn San Steffan, llais sy’n brwydro dros wlad fwy agored a goddefgar”, meddai Carole O’Toole.

“Mae hwn yn ganlyniad anodd i ni yn dilyn canlyniadau etholiad y Cynulliad y llynedd ac fe fydd yn rhaid i ni bwyso a mesur sut yr ydym ni am symud ymlaen o fan hyn.”