Gwynfor Dafydd
Gwynfor Dafydd o Donyrefail sydd wedi ennill cadair Eisteddfod yr Urdd am yr ail flwyddyn yn olynol.

Cyfansoddodd gerdd yn seiliedig ar y ffilm I, Daniel Blake. Roedd y gystadleuaeth yn gofyn am gerdd gaeth neu rydd, heb fod dros 100 llinell ar y testun ‘Yr Arwr’ neu ‘Yr Arwres’.

Mae Gwynfor Dafydd yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf yng Ngholeg yr Iesu, Caergrawnt, yn astudio Sbaeneg ac Almaeneg.

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Aneirin Karadog a Rhys Iorwerth.

“Cerdd sy’n sefyll ar ei thraed ei hun”

Wrth draddodi dywedodd Aneirin Karadog: “O’r darlleniad cyntaf, mae gwaith yr enillydd yn hoelio ein sylw drwy ei allu i ddelweddu a disgrifio’n ddeheuig yn y wers rydd.

“Yn dra annisgwyl, cerdd ecffrastig sydd yma, un wedi’i seilio ar y ffilm I, Daniel Blake. Ar y cychwyn, roedd hyn yn peri mymryn o bryder inni; mae’r gerdd yn pwyso’n drwm ar ddigwyddiadau a chymeriadau’r ffilm, ac yn benthyg ei thema drwy drafod dioddefaint haenau isaf cymdeithas.

“Ond drwy ei allu i’n llorio â’i linellau ac i gynnal y safon o’r dechrau i’r diwedd, rydym yn argyhoeddedig fod hon yn gerdd sy’n sefyll ar ei thraed ei hun.

“O ran aeddfedrwydd y dweud, roedd gwaith yr enillydd ben ac ysgwydd uwch ben pawb arall yn y gystadleuaeth.”

Dywed Gwynfor Dafydd iddo ddechrau ysgrifennu o ddifrif yn dilyn sesiwn gynganeddu yn ei hen ysgol, Ysgol Llanhari, gyda’r Prifardd Mererid Hopwood, Meistr y Ddefod.

“Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Cyril Jones a Huw Dylan am fy rhoi ar ben ffordd yn y dyddiau cynnar ac i dîm talwrn Tir Iarll am y cyfle i ymuno â nhw.  Ond mae fy niolch pennaf i Catrin Rowlands, fy athrawes Gymraeg yn Ysgol Llanhari, am ei chefnogaeth a’i chyngor anffaeledig.”

Carwyn Eckley o Gylch Dyffryn Nantlle ddaeth yn ail, gyda Matthew Tucker o Gylch Llanelli yn drydydd.