Manon Steffan Ros ar y chwith, gyda Luned Aaron
Yr awduron Luned Aaron a Manon Steffan Ros sydd wedi ennill Gwobrau Tir na n-Og eleni, sy’n cydnabod dawn awduron llyfrau ar gyfer plant.
Dyma’r trydydd tro i Manon Steffan Ros ennill y wobr, ac eleni mae’n ennill y wobr yn y categori uwchradd am ei nofel Pluen, sy’n sôn am fachgen 12 oed sy’n gweithio ar brosiect am yr Ail Ryfel Byd.
Mae Luned Aaron, sy’n wreiddiol o Fangor ond erbyn hyn yn byw yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’i dwy ferch, yn cipio’r wobr am y tro cyntaf am ei chyfrol i blant oedran cynradd, ABC Byd Natur.
“Dyma gyfrol unigryw, hardd, lliwgar a deniadol – gyda theimlad ‘gwahanol’ i’r clawr caled – wedi’i chynllunio a’i dylunio’n gelfydd,” meddai W. Gwyn Lewis, cadeirydd y Panel Beirniadu.
“Trwy gyfrwng collage gwreiddiol o wahanol wrthrychau a delweddau o fyd natur, caiff y plentyn ifanc ei hudo i fynd ar daith natur yng nghwmni llythrennau’r wyddor Gymraeg.”
“Themâu heriol”
Mae Manon Steffan Ros yn dod o Riwlas, Dyffryn Ogwen, ac mae bellach yn byw yn Nhywyn gyda’i theulu.
Dywedodd W. Gwyn Lewis fod ei nofel yn “archwilio nifer o themâu cyfoethog a heriol – megis rhyfel a heddwch, heneiddio a dementia – ac yn rhoi cyfle i’r awdur ymdrin yn sensitif a thelynegol â pherthynas y cenedlaethau â’i gilydd.
“Cyflwynir elfen arallfydol, oruwchnaturiol i’r stori mewn modd celfydd, gan lwyddo i gynnal diddordeb y darllenydd tan y diwedd.”
Cyngor Llyfrau Cymru sy’n trefnu gwobrau blynyddol Tir na n-Og, sydd wedi cael eu cynnal ers 1976.