Theresa May a Jeremy Corbyn
Mae’r arolwg diweddara’ o sut y bydd y Cymry yn pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol ymhen wythnos, yn awgrymu y bydd Llafur yn cynyddu nifer ei seddi Cymreig yn San Steffan tra bod y Ceidwadwyr yn crebachu.
Roedd polau piniwn cynnar wedi dangos bod y Ceidwadwyr am wneud yn rhagorol yma yng Nghymru, ond mae’r arolwg diweddaraf yn awgrymu y byddan nhw yn colli dau Aelod Seneddol Cymreig, a lawr o 11 AS i naw.
I’r gwrthwyneb, mae’r arolwg yn awgrymu y bydd y Blaid Lafur yn cynyddu nifer ei Haelodau Seneddol Cymreig o’r 25 presennol i 27.
Fe gafodd 1014 eu holi gan YouGov rhwng Mai 29-31, ar ran ITV Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn ôl yr ymatebion, fe fydd Plaid Cymru yn parhau gyda thri AS a’r Lib Dems gydag un yng Nghymru.
Canran y bleidlais
Llafur: 46% (+2)
Ceidwadwyr: 35% (+1)
Plaid Cymru: 8% (-1)
Lib Dems: 5% (-1)
UKIP: 5% (dim newid)
“Mae ein pôl piniwn newydd yn neilltuo 81% o’r bleidlais i’r ddwy brif blaid,” meddai’r Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.
“1966 oedd y tro diwethaf i Lafur a’r Ceidwadwyr ennill tros 80% o’r bleidlais.
“Am y tro, beth bynnag, mae gwleidyddiaeth dwy blaid i’w weld yn ei ôl. Ac mae Llafur yn dal gafael yn eu safle fel y brif blaid yng Nghymru.”
Hefyd fe ddywedodd yr Athro Roger Scully mai 8% fyddai canran isaf Plaid Cymru o’r bleidlais ers 1987.