Mae’r traffig o gwmpas Eisteddfod yr Urdd heddiw wedi lleddfu o gymharu â dydd Mawrth, yn ôl swyddogion yr ŵyl.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod wrth golwg360 fod lluniau lloeren o’r ardal yn dangos y traffig yn llifo’n hwylus oddi ar yr M4.
Ddoe, dydd Mawrth, cafwyd problemau wrth i geir adael yr M4 ar gyffordd 35 i gyfeiriad Heol Felindre.
O ganlyniad i hynny, mae’r Eisteddfod wedi creu llinell gymorth i bobol sydd wedi’u dal mewn traffig ac sy’n ofni colli eu rhagbrofion.
Mae modd cadw’r rhagbrofion ar agor drwy ffonio 0345 257 1613 neu e-bostio helo@urdd.org.
Dydd Mawrth prysur
Roedd disgwyl i ddydd Mawrth fod yn brysurach na gweddill yr wythnos ac fe gafwyd 20,631 o ymwelwyr o gymharu â 20,573 yn Sir y Fflint y llynedd.
Dydd Llun roedd gan yr Eisteddfod 17,366 o ymwelwyr oedd yn llai na 18,935 y llynedd.
Wrth gyfeirio at y problemau traffig ddydd Mawrth dywedodd llefarydd – “rydym yn ymwybodol fod problemau yn gadael yr M4 ar gyffordd 35, ond mae traffig yn llifo i mewn i’n meysydd parcio unwaith mae’r ceir wedi gadael y draffordd.”