Aled Sion Davies
Dau o sêr y byd chwaraeon yng Nghymru yw llywyddion y dydd yn Eisteddfod yr Urdd ddydd Mawrth (Mai 30).
Yn wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr mae Aled Siôn Davies wedi cystadlu ar lwyfan y byd yn y Gemau Paralympaidd gan ennill yr aur yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012 a Rio 2016.
Ac er bod Laura McAllister yn Athro Polisi Cyhoeddus yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru mae hi wedi ennill 24 cap gan chwarae i dîm pêl-droed merched Cymru.
“Mae llawer o athletwyr ffantastig yn dod o’r ardal hon,” meddai Laura McAllister gan gyfeirio at y chwaraewyr rygbi Rhys Williams a’r seiclwraig Nicole Cooke.
“Mae rhywbeth yn y dŵr ym Mhen-y-bont,” ychwanegodd Aled Siôn Davies gan ddweud ei bod hi’n “fraint” i fod yn Llywydd y Dydd yn yr Eisteddfod gan esbonio iddo astudio yng Ngholeg Pen-y-bont dafliad carreg o’r maes.
“Mae’r Urdd yn gyfle ffantastig, yn enwedig o ran chwaraeon – mae wedi magu’r elfen o gystadleuaeth ynof – ond mae hefyd yn gyfle i wneud hynny gyda ffrindiau,” meddai wedyn.