Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn ifanc wedi cyfaddef achosi marwolaeth gweithiwr mewn clwb golff y cafwyd hyd iddo’n farw mewn llyn ar dir y clwb ger Casnewydd.

Bu farw Gareth Pugh, 29, o Lyn-nedd ar 11 Chwefror y llynedd wrth gasglu peli golff yng Nghlwb Golff Peterstone ger Casnewydd.

Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, roedd Dale Pike, 25, o Lyn-nedd wedi cyfaddef cyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd mewn cysylltiad â marwolaeth Gareth Pugh.

Roedd ei dad, Jonathan Pike, 47, o Aberdâr, eisoes wedi pledio’n ddieuog i’r un cyhuddiad a dywedodd Philip Evans, QC ar ran yr erlyniad na fyddai unrhyw dystiolaeth yn cael ei chyflwyno yn ei erbyn gan nad oedd yn bresennol ar ddiwrnod y digwyddiad.

Cafodd Dale Pike ei ryddhau ar fechnïaeth amodol a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 3 Gorffennaf.