‘Gimme all your lovin’, all your hugs and kisses too…’ ‘Y teimlad, beth yw y teimlad…’ ‘Since you went away the days grow long…’ ‘Mae pob un dydd yn dod â rhywbeth newydd, yn fy ngadael i yn uwch na’r ehedydd…’
Dyma linellau o rai o’r caneuon a gafodd eu clywed yn ystod sioe ragflas Gair o Gariad nos Lun (Mai 15), cyn i gwmni Bara Caws fynd â hi ar daith.
Mae’r holl docynnau i’r perfformiad yn Neuadd Ogwen, Bethesda nos Wener (Mai 19) wedi mynd. Does ryfedd o gofio mai’r gantores Lisa Jên Brown, un o enwogion y pentref hwnnw, sy’n actio yn y sioe, wrth ochr yr actor Carwyn Jones.
Nid drama gyffredin yw hi, ond cyfle i ‘gynnig llwnc destun i gariadon o bob math’. Rhaid i’r dorf anfon cais am gân i’r cwmni ymlaen llaw a nodi beth yw ei harwyddocâd i chi, a dweud i bwyd yr hoffech ei chyflwyno. Y cyfan gewch chi wybod yw ‘efallai bydd eich ‘Gair o Gariad’ yn cael ei blethu i gorff y sioe’.
Dyma oedd yn peri chwilfrydedd; sut fydden nhw’n gwneud hynny? Sut y byddai ein profiadau neu’n caneuon ni’n ffitio mewn i’r sioe? Mae’r hyn sy’n digwydd yn symlach ond eto’n fwy effeithiol nag y gallech chi fyth ei ddychmygu. Cofiwch eirio’ch cais yn ofalus gan y bydd yn cael ei ddarllen yn ystod y sioe.
Mae’r sioe Saesneg wreiddiol Love Letters Straight from your Heart wedi bod ar yr hewl ers deng mlynedd, a hawdd deall ei phoblogrwydd. Mae’r set yn ddeniadol; dwy res hir o fyrddau â lliain coch, gyda chanhwyllau a phetalau arnyn nhw, bylbiau pert uwchben, a gwydr o prosecco neu ddŵr yn croesawu pawb.
Ymhen hir a hwyr, fe fydd yr actorion yn darllen y ceisiadau tra’n chwarae’r caneuon ar gyfrifiaduron. Mae’r ceisiadau’n amrywio’n fawr – fe glywn ni gân Leonard Cohen gan ŵr i’w wraig o sawl degawd; cân bop gan fachgen i gariad a lithrodd o’i afael; un gan ferch i’w chyfeillion heulog; un o ganeuon llai cyfarwydd y Beatles i gath o’r enw Modlen…
Ar brydiau mae dyn yn teimlo mewn parti lle mae pawb yn chwarae gêm gyfaddef, ond bod pawb yn ddieithriaid. O dan yr amgylchiadau yma, mae’r cais yn teimlo yn fwy personol nag erioed.
Mae ambell un yn rhannu pethau mawr, fel yr un sy’n cyflwyno ‘Autumn Leaves’ gan Eve Cassidy i’w hen gariad gan ddatgan i bawb: ‘mae’n credu e fod yn gwybod fy nheimadau tuag ato – achos does dim wedi newid’.
Yn y sioe, mae’r ddau actor eu hunain yn cyfleu trwy fiwsig a dawns ddrama am garwriaeth sy’n blaguro, yn blodeuo, yn gwywo ac yn ailddeffro. Maen nhw’n closio at y gynulleidfa go iawn mewn rhai mannau – peth da os ydych chi’n berson sy’n licio cwtshys.
“Profiad theatrig oedd o yn hytrach na drama,” meddai’r adolygydd Llyr Titus wedi’r sioe. “Dw i’n rhyw berson sy’n mynd i’w gilydd i gyd, ac yn crinjo, ond ro’n i’n synnu sut wnes i ddod iddo fo. Mi wnes i fwynhau o’n ofnadwy; mi wnes i deimlo tristwch, mi wnes i deimlo hapusrwydd. Roedd o’n tynnu rhywun i fewn, ac roedd rhywun yn anghofio’i hun.”
Fe gawson ni Elvis, Joy Division, Sibrydion, Dafydd Iwan, T Rex, Bowie, y tenor David Lloyd, Calvin Harris, a llawer mwy. Er ei bod hi’n sioe sy’n gwneud i chi feddwl yn ddwys am deulu a châr, fe allech chi ddweud mai sioe am bwysigrwydd cerddoriaeth yn y cof yw hi, yn y pen draw. Os ewch i’w gweld mewn ardal sydd â chwaeth dda mewn miwsig, fe gewch chi barti clyd a swynol iawn.
Bydd Gair o Gariad ar daith tan Fehefin 1.