Gŵyl Fwyd Caernarfon (Llun: golwg360)
Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal yng nghanol tref Caernarfon heddiw, ac mae disgwyl y bydd miloedd yn heidio i’r dref er mwyn profi cynnyrch a cherddoriaeth Gymreig.
Dyma fydd ail flwyddyn yr ŵyl ac mae’r trefnwyr yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant y llynedd – cafodd rhwng 10,000 a 11,000 o ymwelwyr eu denu yno – trwy gynnig digwyddiad llawer mwy.
“Mae’n sicr yn fwy,” meddai’r Cadeirydd Pwyllgor Gŵyl Fwyd Caernarfon, Nici Beech, wrth golwg360.
“Mae gennym ni fwy o stondinau a mwy o adloniant na llynedd. Oedd rhyw 74 llynedd ond mae dros 100 o stondinau eleni. Mae llawer mwy o stondinau crefft hefyd.”
Gŵyl Gymreig
Bydd cynhyrchwyr lleol yn arddangos eu cynnyrch, cerddorion lleol yn darparu cerddoriaeth fyw ac mi fydd nifer o weithgareddau amrywiol, o ffair grefftau i babell y plant.
“Mae ‘na gynnyrch i fynd adre’ gyda chi ac wrth gwrs mae ’na lot o gynnyrch i fwyta ar y pryd,” meddai Nici Beech. “Pitsas, pysgod, paella, byrgyrs, toesenni a bwyd Indiaidd. Mae ’na barrau yna hefyd.”
“Mae ’na lot o artistiaid lleol. Mae pob peth yn yr ŵyl yn Gymraeg ac yn Saesneg. ’Da ni’n trio gwneud y Gymraeg yn amlwg yn weledol.”
Er y rhagolygon tywydd, mae’r trefnwyr yn ffyddiog y bydd yr ŵyl yn llwyddiant, boed law neu hindda, ac mae’n debyg bod cysgod ar bob stondin i sicrhau na fydd glaw yn amharu ar y digwyddiad.