Michael Deem
Yn groes i farn Dafydd Elis-Thomas, mae ymgeisydd Plaid Cymru dros Orllewin Caerdydd yn dweud mai “ras dau geffyl rhwng Plaid Cymru a Llafur” yw hi yn yr etholiad cyffredinol.
Mae Michael Deem, 31, yn sefyll yn erbyn yr ymgeisydd Llafur, Kevin Brennan, sydd wedi cael cymeradwyaeth gan gyn-arweinydd Plaid Cymru.
Mae Dafydd Elis-Thomas i’w weld ar bamffledi Kevin Brennan yn dweud bod angen pleidleisio’n dactegol dros Lafur er mwyn rhwystro’r Ceidwadwyr.
Ond ras rhwng Llafur a Phlaid Cymru yw hi yn yr etholaeth, meddai Michael Deem, sy’n gweithio i’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Neil McEvoy.
“Os edrychwch chi ar ganlyniadau etholiadau dros y blynyddoedd diwethaf, mae Gorllewin Caerdydd yn sedd ymylol rhwng Llafur a Phlaid Cymru,” meddai Michael Deem wrth golwg360.
“Mae yna naratif ei bod yn frwydr rhwng y Torïaid a Llafur ond dydyn ni ddim yn meddwl mai dyna’r achos yng Ngorllewin Caerdydd.
“Mae naratif hefyd bod yr etholiad hwn i gyd rhwng Jeremy Corbyn a Theresa May ond rydym ni’n dweud ei fod rhwng Michael Deem a Kevin Brennan yng Ngorllewin Caerdydd.”
“Ymgais i bryfocio”
Dywed ei fod wedi cael ei “synnu” gan benderfyniad Dafydd Elis-Thomas, sydd erbyn hyn yn Aelod Cynulliad Annibynnol, i gefnogi ymgeisydd y Blaid Lafur.
“Dw i ddim yn meddwl bod Kevin [Brennan] wedi bod yna i bobol Gorllewin Caerdydd felly fe wnaeth e fy synnu i y byddai [Dafydd Elis-Thomas] yn cymeradwyo’r math yna o ymgeisydd,” meddai Michael Deem.
“Dw i’n teimlo’n hyderus iawn yng Ngorllewin Caerdydd, dw i ddim yn meddwl y bydd Dafydd Êl yn cael llawer o effaith ar y sefyllfa.
“Mae mwy o bobol wedi cysylltu â fi sy’n teimlo’n ddig dros y ffaith ei fod wedi ymddangos ar bamffled y Blaid Lafur.
“Roedd yn glir y cafodd hyn ei wneud er mwyn pryfocio ymateb gennym ni a chael yr effaith yna ar yr ymgyrch.”
Mae Michael Deem, sy’n wreiddiol o Gaerdydd, yn dweud y byddai’n “lais cryf i bobol gorllewin y ddinas.”
“Dw i wedi delio â channoedd o achosion dros y flwyddyn ddiwethaf ers i fi weithio gyda Neil [McEvoy]. Dw i’n frwdfrydig dros fy ngwaith a dw i wedi gweld dros fy hun yr effaith negyddol y mae’r agenda llymder o San Steffan wedi cael ar bobol.”