Mae wedi dod i’r amlwg na fydd pobol ifanc mewn rhai rhannau o ogledd Cymru yn medru mynd ar brofiad gwaith eleni eto, oherwydd problemau gyda gwirio iechyd a diogelwch safleoedd y profiad gwaith.

Ni fydd modd i ddisgyblion o Wynedd ac Ynys Môn fynd ar brofiad gwaith eleni oherwydd toriadau Llywodraeth Cymru i gronfeydd sefydliad Gyrfa Cymru.

Gyrfa Cymru oedd yn gyfrifol am sicrhau bod gweithleoedd yn addas ac yn ddigon diogel ar gyfer plant ysgol, ond yn 2015 cafodd eu gallu i ddarparu’r gwasanaeth ei gyfyngu oherwydd toriadau i’w cyllideb.

Nid dyma’r flwyddyn gyntaf i blant ysgol gael eu rhwystro rhag profi gwaith oherwydd y toriadau – mae’n debyg y cafodd disgyblion yng Nghonwy eu hatal y llynedd.

“Cannoedd yn colli’r cyfle”

“Penderfynodd Llywodraeth Llafur Cymru i gwtogi cronfa Gyrfa Cymru a’u hatal rhag gallu gwirio cyflogwyr, ac o ganlyniad i hyn mae cannoedd o ddisgyblion yn colli’r cyfle,” meddai Ysgrifennydd Addysg Gysgodol y Ceidwadwyr, Darren Millar.

“Mae’n rhaid i weinidogion weithio gyda Gyrfa Cymru ac ysgolion i fynd i’r afael â’r broblem yma cyn gynted ag sy’n bosib. Mae profiad gwaith yn hynod o fuddiol i bobol ifanc gan ei fod yn eu haddysgu ar gyfer y dyfodol ac yn helpu i ddatblygu hunan hyder.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.