Lucie Jones yn yr Iwcrain yr wythnos yma (Mykola Swarnyk CCA3.0)
Mae enillydd Prydeinig diwetha’ cystadleuaeth yr Eurovision wedi ymosod yn hallt ar y Gymraes sy’n cynrychioli gwledydd Prydain eleni.
Fe ddywedodd Katrina Leskanich fod y BBC ar fai yn dewis cyn-gystadleuwyr rhaglen yr X Factor – yn union fel Lucie Jones o Gaerdydd, sy’n canu’r gân Brydeinig yn yr Iwcrain dros y Sul.
Roedd hi wedi curo pump o gyn-gystadleuwyr eraill oddi ar sioe ITV er mwyn cael y fraint.
“Llwyth o fethiannau X Factor? Mae hynna’n dweud y cyfan,” meddai Katrina Leskanich wrth bapur y Daily Telegraph. “Pa mor ddychrynllyd ydy hynna? Mae hi’n wastraff anferth o arian i beidio â chymryd y peth ychydig yn fwy difrifol, a thrio mymryn caletach.”
‘Rhywbeth ond dim pwyntiau’
Enillodd Katrina Leskanich y gystadleuaeth yn enw gwledydd Prydain 20 mlynedd yn ôl gyda’r gân Love Shine A Light.
Lucie Jones, 25 oed, o Gaerdydd fydd yn cystadlu eleni, gyda’r gân Never Give Up On You – roedd hi wedi cystadlu’n aflwyddiannus ar X Factor yn 2009.
Yn awr mae hi wedi dweud y bydd hi’n hapus o beidio â dod yn ola’ yn y gystadleuaeth: “Os ca i ddim pwyntiau, fe fydda i’n siomedig,” meddai. “Bydd unrhyw beth arall yn fuddugoliaeth.”
Mae Lucie Jones wedi dweud y bydd yn hapus, cyhyd nad yw’n dod yn olaf yn y gystadleuaeth.