Mae cyhoeddwyr newydd yn dweud eu bod nhw wedi cymryd cyfrifoldeb am y cylchgrawn dychan a sgandal, Lol.

Ac maen nhw wedi cadarnhau y bydd yna rifyn yn yr haf eleni, ar ôl rhybuddion y llynedd y gallai ddod i ben.

Ar y pryd, roedd Gwasg y Lolfa, sy’n argraffu Lol yn dweud bod y cyfryngau cymdeithasol wedi tynnu llawer o’r gwynt o hwyliau’r cylchgrawn.

‘Cwmni Gwaeth’

Fe ddaeth datganiad heddiw mai cwmni o’r enw Cwmni Gwaeth fydd yn cyhoeddi’r rhifyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Yn ôl yr arfer diweddar, does dim gwybodaeth pwy sydd y tu cefn i’r cwmni ond mae yna wahoddiadau i bobol anfon straeon erbyn canol mis Gorffennaf.

Fe fydd Cwmni Gwaeth yn disodli Cwmni Drwg sydd wedi bod yn gyfrifol am y cylchgrawn yn y blynyddoedd diwetha’ – Y Lolfa oedd yn llefaru ar ran hwnnw.