Gwion Thomas a Caryl Hughes wrthi'n ymarfer ar gyfer opera Y Tŵr
Mae un o gantorion opera newydd yn y Gymraeg yn dweud ei fod yn rhyfeddu nad oes mwy wedi cyfansoddi operâu yn yr iaith o ystyried “greddf y Cymry i ganu”.
Y bariton, Gwion Thomas sy’n byw yng nghyffiniau Northampton, sy’n portreadu’r gŵr yn opera newydd Y Tŵr – addasiad o ddrama Gwenlyn Parry gafodd ei chyhoeddi gyntaf yn 1978.
Am y deufis nesaf, fe fydd yn rhannu llwyfan â’r soprano Caryl Hughes wrth iddyn nhw fynd â’r cynhyrchiad ar daith o gwmpas theatrau Cymru.
“Dw i wedi bod yn chwilio am rywbeth fel hyn ers amser maith achos mae rhywun yn canu ar ei orau yn iaith ei fam a’i dad,” meddai Gwion Thomas sy’n wreiddiol o Abertawe.
‘Gwaith aruthrol’
Esboniodd mai dyma fydd yr opera gwreiddiol Gymraeg gyntaf i gael ei chynhyrchu’n broffesiynol gan Theatr Genedlaethol Cymru a Music Theatre Wales.
“Mae hynny’n rhyfeddol achos mae greddf gan y Cymry i ganu, ond does dim traddodiad cryf o operâu wedi bod yn y Gymraeg,” meddai gan gyfeirio at gyfieithiadau ac addasiadau.
Mae’r opera hon wedi’i chyfansoddi gan y cyfansoddwr sy’n wreiddiol o’r Bala, Guto Pryderi Puw, gyda Gwyneth Glyn yn cymryd at y geiriau.
“Maen nhw wedi gwneud gwaith aruthrol, ac mae seicoleg gymhleth y ddrama i’w chlywed yn y gerddoriaeth,” meddai wrth golwg360.
Mae’r opera’n adrodd stori dau gariad yn dringo tŵr dros gyfnod a dair cenhedlaeth, a dywedodd Gwion Thomas – “dw i wedi gwirioni ar ba mor gynnil yw hi.”