Y mis hwn, fe fydd Llenyddiaeth Cymru yn gadael ei swyddfa yn Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, ac yn symud ei staff i gyd i mewn i’w swyddfa arall yng Nghanolfan y Mileniwm.
Bydd prydles y swyddfa yn dod i ben ym mis Medi ac, oherwydd hynny, mae’r sefydliad hyrwyddo llenyddiaeth wedi penderfynu y bydd pob un o’i 14 aelod o staff yn y brifddinas o hyn allan yn gweithio o swyddfa yn y Bae.
Y bwriad ydi cadw dim ond un swyddfa yng Nghaerdydd, sef honno sydd wedi bod yn rhan o Ganolfan y Mileniwm ers 2004, tra bydd aelodau staff y gogledd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i weithio yn y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy.