Mae dogfen ddata am y diciâu (TB) mewn gwartheg yn dangos bod y nifer o wartheg sy’n cael eu difa yng Nghymru oherwydd y clefyd wedi cynyddu.
Er bod dogfen TB Dashboard yn datgelu cwymp yn nifer yr achosion o TB ers 2012, mae nifer y gwartheg gafodd eu difa yn ystod y flwyddyn hyd at Ionawr eleni, 22% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol.
Gan eithrio 2008 a 2009 mae’r nifer o wartheg cafodd eu difa yn ystod y flwyddyn hyd at Ionawr eleni yn uwch nag unrhyw flwyddyn ers 1996.
Mae’r ddogfen hefyd yn dangos mai yn ne orllewin Cymru mae lefelau TB ar ei uchaf ac mae’n debyg bod 80% o achosion newydd yn ymddangos mewn ardaloedd “TB uchel” gan gynnwys gogledd Sir Benfro.
“Dychrynllyd o gyflym”
“Mae’r nifer o yrr gwartheg sydd yn cael eu cofrestri yng Nghymru wedi cwympo 43% ers 1996 ac mae’r diwydiant wedi colli cynhyrchwyr llaeth yn ddychrynllyd o gyflym,” meddai Uwch Swyddog Bolisi Undeb Amaethwyr Cymru, Dr Hazel Wright.
“Diciâu mewn gwartheg yw un o’r materion mwyaf difrifol sy’n wynebu ffermwyr gwartheg Cymreig ac mae angen ar frys am ymdriniaeth fwy holistig, sydd yn mynd i’r afael â’r gronfa bywyd gwyllt.”